Poamics – Astudiaeth Deunyddiau trwy Farddoniaeth a Cerameg

Mae John Bennett, MA mewn Cerameg yn cyhoeddi ei farddoniaeth yng nghyfrol 4 ‘Metropolitan’ Met Caerdydd, y diweddaraf mewn cyfres o fyfyrwyr yn ysgrifennu Antholegau. Mae pob rhifyn yn cynnwys cyfuniad trawiadol o farddoniaeth, rhyddiaith, a ffeithiol greadigol lle mae myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau aruthrol fel artistiaid llenyddol a storïwyr.

Clywais am ‘Antholegau’ Caerdydd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Rydw i wastad wedi gweld harddwch a grym geiriau, efallai mai fy meddwl dyslecsig sy’n gyfrifol am hynny a gweld geiriau fel delweddau sy’n ffurfio darlun anhygoel. Tybiwn mai dim ond rhywbeth roeddwn i’n ei wneud i mi fy hun oedd barddoniaeth ond mae astudio athroniaeth gyda’r Athro Clive Cazeaux wedi fy ngalluogi i archwilio ei natur anhygoel.

Mae geiriau’n hudoliaeth, yn ddirgelwch, yn hud, yn llenwi’r gwagle ac yn tanio’r dychymyg. Gall gair unigol, wedi’i leoli a’i sgleinio danio’r awyr, newid meddyliau a lliwio’r gofod llwyd rhwng gobaith ac anobaith. Rydym i gyd yn estyn allan i gymuno o lwydni ein penglogau, gan anwesu ein bodolaeth mewn dawns o gofleidio mewnol ac allanol. Wedi’i olchi gan yr haul tanbaid, wedi’i gannu gan wyntoedd lleisiol, wedi’i lapio gan lain yr heli hallt fel y mae’n llenwi ffroenau o gregyn atseiniol.

Mae fy ngwaith yn rhyngwyneb rhwng gair a ffurf, geiriau haptig sy’n cerfio’r aer, wedi’i wneud o’r ddaear, y pridd, deunydd cyfoethog ein dechreuadau. Rwy’n gweld geiriau fel ffurfiau corfforol, mathau o rhythmau, cerdd.

Rwy’n gweithio fel crochenydd ar yr olwyn dhamma, gan ddal yr edeifion lledrithiol, byrhoedlog hyn. Rwy’n archwilio trosiad, symudiad a deunydd gan weld y bowlen gymaint â gair, fel cynhwysydd maetholion, fel nifwl cymdeithas. Rwy’n gweld symudiad yr olwyn fel cylchdro dyddiau, orbitau oes.