Annie Fenton and Nathan Barnard

Annie a Nathan yn cyfweld y ffotograffydd Martin Parr

Mae’r artist ‘Inc Space’, Annie Fenton, yn cymryd rhan yn rhaglen Treftadaeth Ieuenctid, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac mae’n profi i fod yn brofiad gwerthfawr iawn. ‘Am yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc eraill fel rhan o’r rhaglen Treftadaeth Ieuenctid yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, i gyd-guradu arddangosfa sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Tymor Ffotograffiaeth gyfredol. Dewisasom ddelweddau o gasgliad parhaol yr Amgueddfa, ysgrifennu amdanynt a thrafod materion a godwyd megis cynrychiolaeth, hunaniaeth, amrywiaeth, ymfudo, anabledd (a mwy).’

Trwy’r rhaglen, cafodd gyfle hefyd i gyfweld â’r ffotograffydd Martin Parr, y mae ei waith yn ymddangos yn y Tymor Ffotograffiaeth sydd newydd agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Daeth Annie â Nathan Barnard, myfyrwyr Ceramig yn ei drydedd flwyddyn, i helpu i gyfweld â Martin, y ddau yn ei chael yn brofiad hynod ddiddorol.

Esboniodd Annie: ‘Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gwrdd â Martin Parr a’i gyfweld â Nathan ym Mryste yn Sefydliad Martin Parr, ar ran yr Amgueddfa. Roedd yn brofiad anhygoel arall ac roedd yn ysbrydoledig i gwrdd â ffotograffydd mor gynhyrchiol yr wyf wedi ei edmygu ei waith ers amser maith. ’

‘Rwyf am barhau i weithio gyda Rhaglen Treftadaeth Ieuenctid Cymru gan fy mod wedi dysgu cymaint trwyddo ac i guradu mwy o arddangosfeydd fy hun yn y Flwyddyn Newydd. Rydw i hefyd yn mynd i ddefnyddio’r profiad i wella’r gwaith rydw i’n ei wneud yn Shift, yr oriel yng Nghanol Dinas Caerdydd. Mae wedi fy ysbrydoli i feddwl am gynllunio digwyddiadau a fydd yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i brofiadau ymwelwyr ag arddangosfeydd.’

Dywedodd Nathan: ‘Roedd yn wych cael y cyfweliad hwn â Martin fel fy mhrofiad cyntaf o siarad ag arlunydd am eu gwaith gan ei fod wedi bod yn gyfweliad hamddenol iawn ac wedi rhoi’r hyder imi ei wneud eto. Ar gyfer fy nhraethawd hir, byddaf yn cyfweld artistiaid i ddeall pam eu bod yn gwneud yr hyn maent yn gwneud a bydd yr hyn y maent yn ei ddefnyddio’n bwysig iawn.’

Mae arddangosfa rhaglen Treftadaeth Ieuenctid Cymru yn rhedeg tan 1 Mawrth 2020 ac mae ffilm cyfweliad Annie a Nathan â Martin Parr yn cael ei dangos yn yr arddangosfa o’i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 4 Mai 2020.