Arwerthiant codi arian myfyrwyr cerameg

Ymunwch â myfyrwyr Seramig y drydedd flwyddyn mewn arwerthiant o nwyddau seramig y maent yn ei drefnu ar gyfer y 6 Rhagfyr i godi arian ar gyfer eu sioe gradd. Mae’r gwaith sydd ar werth yn cynnwys darnau a roddwyd iddynt gan seramegwyr a graddedigion sefydledig a rhai a wnaed gan y myfyrwyr eu hunain. Maent yn cynllunio noson ddifyr gydag arwerthiannau tawel a rhai byw. Eu nod yw codi digon o arian ar gyfer eu blwyddyn i gynhyrchu sioe radd wych a thalu costau o arddangos eu gwaith mewn rhai arddangosfeydd allanol hefyd gan y bydd hyn yn rhoi llwyfan ddefnyddiol iddynt wrth iddynt lansio eu gyrfaoedd proffesiynol.

Dewch draw i’r Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar Gampws Met Caerdydd, Llandaf ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr o 6.30pm ar gyfer arwerthiant hamddenol, i ddathlu natur amrywiol ymarfer cerameg.