Mae Charlotte Grayland, myfyriwr Celf Gain sydd yn ei blwyddyn gyntaf, yn cymryd rhan yn rhaglen Goruchwylio Arbennig Cymru yn Fenis Cyngor Celfyddydau Cymru, gan dreulio mis yn Biennale Cymru a helpu i oruchwylio arddangosfa Sean Edwards ym Mhafiliwn Cymru. Dyma ei newyddion o wythnos dau:
‘Yr wythnos hon, cynhaliodd tîm yr Alban a Fenis ddigwyddiad bywluniadu allan o oriau gan groesawu goruchwylwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Ukrain, Latfia a Malta. Cawsom ddarlunio sawl model ac osgo, ac roedd goruchwylwyr o wahanol bafiliynau yn modelu ac yn lluniadu gyda’i gilydd.
‘Roedd lluniadu yng nghwmni unigolion creadigol eraill yn brofiad difyr dros ben. Dyma’r tro cyntaf ers amser maith i mi ddewis treulio cymaint o amser yn canolbwyntio ar luniadu’n unig, yn enwedig lluniadu model byw. Roedd yn chwa o awyr iach ac yn rhoi teimlad o ryddhad i mi fel artist.
‘Mae hyn wedi fy atgoffa bod y broses o luniadu yn gallu datgelu ym mhle mae gwir ddiddordeb yr artist yn weledol, pa un a yw’n ymwybodol o hynny ai peidio. Er enghraifft, yn ystod digwyddiad bywluniadu yr Alban, sylweddolais fy mod wedi fy swyno gan y bobl a oedd yn lluniadu’r model; y bobl a oedd yn edrych ar y gwrthrych. Mae hyn yn gysylltiedig ag un o brif themâu’r prosiect creadigol rydw i’n ymchwilio iddo yma yn Fenis, sef arsylwi ar yr arsylwyr ac nid y gwrthrych, edrych ar gynulleidfa gwaith celf, ac nid y gwaith celf ei hun.
‘Ers peth amser, mae fy ymarfer wedi gwyro oddi wrth luniadu, ac fel arfer dim ond i gofnodi syniadau y byddaf yn lluniadu; fel y cam cyntaf yn y broses o greu. Fodd bynnag, mae bod yn Fenis a gwneud gweithgareddau fel hyn wedi fy ysbrydoli i luniadu’n amlach. Efallai fod hyn oherwydd ei fod yn ffordd o gofnodi fy amgylchedd mewn cyfrwng ar wahân i ffotograffiaeth, ac efallai fod y lluniadu yn rhoi boddhad neu dim ond yn ddiddordeb, ac felly dydw i ddim yn gorfod meddwl am y gwaith gorffenedig sy’n rhoi pwysau ar y broses o greu.
‘Rydw i’n gyffrous wrth feddwl os bydd hyn yn effeithio ar fy ymarfer tra byddaf yn Fenis ac ar ôl dychwelyd i Gaerdydd hefyd, ac os felly, sut.’