Charlotte Grayland: Fy Uchafbwyntiau Celf y tu allan i Biennale Fenis

Mae Charlotte Grayland, sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf mewn Celf Gain, yn un o dri o fyfyrwyr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd sy’n cymryd rhan yn rhaglen Goruchwylio Arbennig Cymru yn Fenis Cyngor Celfyddydau Cymru, gan dreulio mis yn Biennale Fenis yn helpu i oruchwylio’r arddangosfa ym Mhafiliwn Cymru gan Sean Edwards, darlithydd Celf Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae Charlotte wedi neilltuo amser hefyd i ddatblygu ei hymarfer creadigol, crwydro’r Biennale a chwilio am ysbrydoliaeth ym mhob cwr o’r ddinas. Dyma ei hadroddiad o wythnos 3:

 Wrth ymweld â Fenis ar gyfer y Biennale, byddai’n hawdd ymgolli yn yr Arsenale, y Giardini, a’r digwyddiadau cyfochrog yn unig. Fodd bynnag, mae Fenis yn gartref i nifer o orielau celf ac amgueddfeydd bendigedig ac maen nhw yno i’w darganfod. Os nad ydych chi wedi cael digon o gelf eto, dyma’r llefydd i fynd.

Dyma fy uchafbwyntiau celf y tu allan i’r Biennale:

  1. Punta Della Dogana

Y Punta Della Dogana yw un o fy hoff lefydd yn Fenis. Mae’r arddangosfa bresennol, Luogo E Segni, wedi’i chyflwyno gan Martin Bethenod a Mouna Mekouar, yn ddarn o athrylith sy’n amlygu celf gywrain a phensaernïaeth aruchel Giuseppe Benoni. Saif yr Oriel ar y pwynt ble mae camlas Grande’n ymuno â chamlas Giudecca, ac mae’n darparu rhai o’r golygfeydd mwyaf godidog yn Fenis – y tu mewn a’r tu allan! Mae tocynnau i’r oriel hon yn rhoi mynediad i oriel Palazzo Grassi hefyd gan fod y ddwy oriel wedi’u gefeillio. Does dim y fath beth a gormod o gelf!

  1. Amgueddfa Peggy Guggenheim

Os ydych chi am weld celf fodern gan y goreuon, dyma’r lle i fynd. Mae yma weithiau gan Kandinsky, Magritte, Mondrian, Pollock a Picasso i enwi dim ond rhai ac mae’n wledd i’r llygad. Oherwydd yr holl weithiau celf byd eang sydd yma, dyw hi ddim yn syndod bod yr amgueddfa’n brysur iawn ar adegau, gyda nifer o deithiau tywys a grwpiau’n gwneud eu ffordd drwy’r adeilad. I osgoi’r tyrfaoedd sy’n gallu amharu ar yr olygfa’n aml iawn, byddwn i’n awgrymu eich bod yn ymweld y tu allan i oriau brig er mwyn cael y profiad gorau. Mae’r Guggenheim yn chwedlonol ac ar ôl bod yno byddwch yn deall pam.

  1. “HUMAN” Sean Scully – Eglwys San Giorgio Maggiore 

Mae’n rhaid mynd i weld arddangosfa Sean Scully (8 Mai- 13 Hydref) sy’n cael ei chynnal ar ynys San Giorgio ac sy’n rhad ac am ddim. Mae Basilica enwog yr ynys yn gefndir eithriadol o hardd i ddetholiad Scully o beintiadau a lluniadau bloc. Mae ei brif gerflun, “Opulent Ascension”, yn syfrdanol o feiddgar; tŵr ffelt amryliw enfawr wedi’i osod yng nghanol yr abaty.

  1. Gallerie dell’Accademia –

Yn ogystal â bod yn gartref i un o ddigwyddiadau cyfochrog y Biennale (arddangosfa arbennig gan Georg Baselitz), mae’r Gallerie dell’Accademia yn llawn gwaith celf clasurol a phrydferth. Mae yma baentiadau a cherfluniau o gyfnod Dadeni Fenis yn ogystal ag o’r cyfnod Baróc, y cyfnod neo-glasurol a’r cyfnod rhamantiaeth. Mae’r adeilad ei hun yn eithriadol o hardd ac addurnedig, a gallaf eich sicrhau y bydd y nenfwd yn eich cyfareddu lawn cymaint â’r gwaith celf. Yr Oriel hon yw’r lle perffaith i’r rheiny ohonoch sydd awydd seibiant o’r doreth o gelf fodern sydd i’w weld yma hefyd.

Dim ond llond llaw o awgrymiadau yw’r rhain gan fod yna leoliadau dirifedi ym mhob twll a chornel o Fenis i chi ymweld â nhw. Felly ewch ati i grwydro, ac os byddwch yn colli’ch ffordd byddwch yn siŵr o ddod ar draws gwaith celf anhygoel.