Clwstwr: Ysbrydoli a Chydweithio

Ysbrydoli a Chydweithio
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Dydd Mawrth , 9 Ebrill a Dydd Iau, 11 Ebrill
http://www.clwstwr.org.uk/cy/clwstwr-ysbrydoli-chydweithio

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer gweithwyr llawrydd, busnesau newydd a mentrau bach a chanolig sy’n awyddus i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer cyllid Clwstwr.
Mae’r digwyddiadau yma wedi’u creu er mwyn annog syniadau newydd arloesol a’r cyfle i feithrin partneriaethau a chyweithiau newydd.
Bydd academyddion o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn cyflwyno dulliau dylunio o safbwynt defnyddiwr i ymchwilio a datblygu (Y&D) ac arddangos rhai o’r adnoddau sydd ar gael drwy’r rhaglen Clwstwr e.e. cyfleusterau ffabrigiad digidol a’r lab profiad canfyddiadol (gwagle VR ailosodiadwy) FabLab Caerdydd.
Bydd mynychwyr i’r gweithdy hanner diwrnod yma hefyd yn cael cyfle i drafod eu syniadau gyda chynhyrchydd Clwstwr a gofyn cwestiynau am y Datganiad o Ddiddordeb.