Morgan Dowdall, artist cerameg graddedig, yn cyflwyno arddangosfa ‘Well-Hung’ fel rhan o ddigwyddiad UK Young Artist takeover (UKYA) Nottingham.
Enillodd Morgan radd BA mewn Cerameg yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn aelod o griw Inc. Space – cyfle i dreulio blwyddyn ychwanegol gyda’r Ysgol er mwyn lansio eu busnes neu eu gyrfa gynaliadwy eu hunain fel artist, dylunydd neu grefftwr. Dechreuodd y cyfleoedd lifo o hynny, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys arddangosfa ‘Well-Hung’ fel rhan o UK Young Artist takeover (UKYA) Nottingham.
Clywodd Morgan am y cyfle hwn wrth arddangos ei waith yn sioe New Designers lle’r oedd y trefnwyr UKYA yn hynod frwdfrydig am ei blatiau hongian ar waliau – ac awgrymu ei fod yn gwneud cais i ddigwyddiad meddiannu dinas Nottingham. A dyna’n union a wnaeth pan ddaeth y cais am gyfranwyr.
Roedd wedi datblygu ei blatiau ‘Nude Yoga Men’ yn ystod ail flwyddyn ei gwrs Cerameg, ac er nad oedden nhw’n rhan o’i sioe raddio derfynol, mae wedi mireinio a choethi’r cynllun ers hynny.
Mae gweithio yn Inc. Space wedi’i helpu i gydbwyso ei lwyth gwaith, rhwng creu cerfluniau cain a cerameg a phrintiau mwy darluniadol. Mae ei blatiau’n dathlu rhywioldeb a chyrff o bob lliw a llun.
“Er mod i’n defnyddio stensiliau papur i greu amlinellau o’r ffigurau, trwy ddarlunio, rwy’n gallu creu posibiliadau di-ben-draw o fewn y dynion sy’n ymddangos ar y platiau. Hoffwn wneud i bobl deimlo eu bod nhw wedi’u cynrychioli a’u derbyn, felly rwy’n ceisio creu rhai mor amrywiol â phosib yn hytrach na chanolbwyntio ar gorff y dyn ‘delfrydol’.”
Cynigiodd Morgan ugain o blatiau o faint amrywiol i lenwi wal yr arddangosfa. Daeth ei lythyr derbyn i law ym mis Awst 2018, yn dweud y byddai angen postio’r platiau erbyn mis Ionawr 2019.
“Roedd angen ailstocio’n gyflym iawn ar ôl gwerthu rhywfaint dros y Nadolig, a dw i erioed wedi postio cymaint o blatiau gyda’i gilydd o’r blaen, felly ro’n i braidd yn nerfus! – ond trwy lwc, fe gyrhaeddodd popeth mewn un darn.”
Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 7 ac 13 Chwefror yng nghwmni dros 250 o artistiaid. Roedd y gweithiau’n amrywio o gerfluniau, celfyddyd gain, celfyddyd gymhwysol, celfyddyd berfformio a ffilm. Cynigiwyd llety am ddim i’r artistiaid oedd yn cymryd rhan.
“Roedd y gwaith i gyd o safon uchel iawn, a thema’r ‘corff’ yn amlwg iawn drwy’r cyfan, ac roedd y digwyddiad ei hun yn teimlo’n hynod groesawgar a queer-gyfeillgar. Mae’r llefydd stiwdios yn Nottingham mor fawr a chyffrous! Rwy’n awyddus i sefydlu rhywbeth tebyg yma yng Nghaerdydd. Roedd y profiad o ddilyn map i ddod o hyd i’r lleoliadau cyfrinachol hyn llawn dop o gelf yn atgoffa rhywun o grwydro pafiliynau Biennale Fenis, ac yn ffordd wych o ddod i adnabod y ddinas.”
Mae Morgan newydd glywed bod ei waith wedi’i ddewis ar gyfer G R A F T – arddangosfa UKYA yn Preston sy’n cynnwys 24 o’r 250 a mwy o artistiaid gwreiddiol o ddigwyddiad Nottingham.
“At ei gilydd, roedd yn daith hynod lwyddiannus a phleserus! Byddwn ni’n ei hargymell i eraill heb os, petai dim ond er mwyn ymgolli’ch hun yn llwyr mewn gweithiau celf anhygoel am ychydig ddyddiau.”
Gwefan yr Artist: www.morgandowdall.com