Work by Ceramicist Sam Lucas

Cynllun Graddedigion Fireworks

Mae gan Cerameg yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (CSAD) gysylltiadau cryf â Fireworks Clay Studios, un o’r cydweithfeydd cerameg mwyaf a hirfaith yn Ewrop. Wedi’i sefydlu gan raddedigion BA bron i 25 mlynedd yn ôl, mae gan y stiwdio 18 o ymarferwyr cerameg, gyda’r mwyafrif ohonynt wedi dechrau eu gyrfaoedd mewn rhaglenni BA ac MA CSAD.

Mae cynllun graddedigion Fireworks yn parhau i feithrin talent newydd trwy roi cymhorthdal i ddau raddedig bob blwyddyn o raglenni Cerameg BA neu MA o unrhyw le yn y wlad, gan eu galluogi i weithio o fewn gwybodaeth a chefnogaeth y sefydliad clodwiw hwn. Mae graddedigion Caerdydd, Kim Colebrook a Sam Lucas yn esbonio beth mae’r cyfle hwn wedi’i olygu iddyn nhw.

Kim Colebrook

Work by Ceramicist Kim Colebrook

Roedd ennill gwobr Gofod Stiwdio i Raddedigion yn Fireworks Clay Studios yng Nghaerdydd yn ffordd wych o gwblhau fy MA Cerameg – rhywbeth roeddwn i’n dyheu amdano ond heb feddwl y baswn i’n ei gyflawni.

Roedd cymryd fy offer, clai a “stwff cyffredinol” o Met Caerdydd i mewn i’r grefft sanctaidd hon o artistiaid cerameg yn sialens frawychus ond mae pawb yn eich croesawu chi. Roedd cael stiwdio yn wych, ond y budd mwyaf oedd y gefnogaeth a’r anogaeth, yn ogystal â’r cyfle i ddarganfod sut mae rhai o artistiaid cerameg gorau’r DU yn gweithio; eu hymrwymiad, heriau a llwyddiannau. Wedyn, roedd gallu sgwrsio am eich dull prisio, i weld faint o waith sydd ynghlwm wrth baratoi arddangosfa neu gasgliad newydd o waith, i fod yn rhan o Ddiwrnod Agored y Stiwdio ac yna i gael adborth ar eich gwaith yn amhrisiadwy.

Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rydw i wedi bod yn gwneud cais i fod yn rhan o arddangosfeydd – mae llwyddiannau wedi cynnwys cael fy newis ar gyfer arddangosfa Rising Stars yng Ngaleri New Ashgate ac Arddangosfa Artist Newydd yn Oriel Creates yn Nhrefynwy. Mae arddangosfeydd gwerthu wedi cynnwys “Beacons to the Sea” yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, cyn y Nadolig a gorfod ailstocio Oriel Bevere ychydig o weithiau. Cefais ddewrder hyd yn oed i gysylltu â Chanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac erbyn hyn mae ganddynt ddetholiad bach o waith ar gyfer y siop, fel y mae Oriel Cric yng Nghrucywel.

Nawr rwy’n edrych ymlaen. Mae cais wedi’i gyflwyno ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol (gyda llawer o anogaeth gan Fireworks – croesi bysedd), ac rwy’n edrych i wneud cais am le yn Made by Hand, Caerdydd a Gwobr ICF Emerging Makers, yn ogystal â llunio syniadau ar gyfer arddangosfeydd ac yn awyddus i fod yn rhan o Vulgar Earth, grŵp gwych o artistiaid. Ac rwy’n dechrau adeiladu fy stiwdio fy hun – mae blwyddyn yn mynd yn gyflym iawn ac mae cael Stiwdio i Raddedigion yn Fireworks wedi bod yn gyfle gwych i dyfu ac ennill profiad.

www.kimcolebrook.com

Sam Lucas

Work by Ceramicist Sam Lucas

Ers graddio o’r adran Cerameg wych yn CSAD gyda gradd Meistr, roeddwn i’n ddigon ffodus i ennill un o’r preswyliadau graddedig yn stiwdios clai Fireworks. (Ni allaf gredu ein bod hanner ffordd drwy’r cyfnod preswyl blwyddyn yn barod). Mae hyn wedi bod yn hanfodol i fy natblygiad, gan roi lle a chefnogaeth i mi gan wneuthurwyr anhygoel a medrus mewn stiwdio sydd nid yn unig yn ddeniadol o safbwynt estheteg ond mae’r awyrgylch yn llawn bwrlwm ac yn gyfeillgar.

Ar ôl y cyfnod ymgartrefu cychwynnol, dechreuais fynd i’r afael â gwneud pethau eto, gan adfer fy nghamau a chynhyrchu gwaith newydd y tu hwnt i’r byd academaidd. Treuliais fisoedd y gaeaf yn cynllunio beth a lle hoffwn arddangos, gan dynnu ar syniadau yr oeddwn wedi’u llunio ar yr MA. Fe wnes i ddewis a gwneud cais am ddetholiad o wahanol gyfleoedd fel arbrawf i weld lle byddai fy ngwaith yn ffitio; cyfleoedd gwahanol, yn bennaf dramor ar y dechrau ond gyda chanlyniadau siomedig, ond wedyn yn nes at adref, fe’m hysgogwyd i wneud cais am bethau yr oeddwn wedi meddwl y byddai tu hwnt i’m cyrraedd.

O’r diwedd, ymddangosodd y llwyddiannau yn fy mewnflwch, ymatebion cadarnhaol un ar ôl y llall. Sylweddolais wedyn bod y gwaith cynllunio hwnnw’n hanfodol gan fod rhai o’r cyfleoedd yn gorgyffwrdd, a arweiniodd at yr angen i jyglo amser a gwneud llawer o yrru, sydd wedi bwyta i mewn i’m hamser stiwdio.

Yn gyntaf roedd y pleser a’r syndod o gael fy newis ar gyfer Rising Stars 2019 yng Ngaleri New Ashgate yn Farnham, Surrey. Mae’n oriel hyfryd yng nghanol y dref gan roi’r cyfle i wneuthurwyr crefft newydd neu’r rhai sydd ar gam canolog yn eu gyrfa i arddangos i gynulleidfa ehangach.

Yna New Designers flwyddyn i mewn a sesiwn tynnu lluniau, a’m gwelodd yn gwneud rhywfaint o waith o’r arddangosfa ac yn rasio drwy Llundain yn fy nghar bach gan fod fy ngwaith yn rhy fawr ac yn fregus i’w anfon trwy negesydd ac yna dychwelyd y gwaith i’r oriel ychydig ddyddiau yn ddiweddarach (ni chynghorir gwneud hynny!!).

Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi cael fy newis ar gyfer cerflunwaith cyntaf RWA (Royal West Academy) Bryste Agored ers 20 mlynedd. Fel gwneuthurwr sy’n dod i’r amlwg, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod yn arddangos ochr yn ochr â cherflunwyr amlwg. Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn arloesol iawn mewn llawer o wahanol gyfryngau. Mae bod yn un o’r 88 a ddewiswyd o 1100 o ymgeiswyr wedi fy ngadael yn troelli… (rwy’n gobeithio ei fod yn digwydd oherwydd bod fy ngwaith yn deilwng… Nid oherwydd bod gen i ffrindiau mewn mannau uchel!).

Rwyf hefyd wrthi fel lladd nadroedd yn gwneud gwaith ar gyfer sioe yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn ati, ond ssshhhh ni allaf sôn am hyn eto!

www.sam-lucas.com


www.fireworksclaystudios.org