Yr Athro Gareth Loudon
Dydd Lau 8 Tachwedd 2018, 4.00pm,
Heartspace yr Ysgol Celf a Dylunio
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae’r grŵp ymchwil i ddylunio defnyddiwr-ganolog (UCD-R) wedi datblygu ystod o offer a phrosesau dylunio defnyddiwr-ganolog newydd yn seiliedig ar ddeall yn drylwyr gymhellion ac ymddygiad prynwyr.
Mae’r grŵp wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau, gan gynnwys Sony Ericsson, Samsung Design Europe, Mothercare, cwmnïau fferyllol mawr (o dan NDA) a chwmnïau tebyg i Kenwood o ran datblygu cynhyrchion newydd. Yn 2015, datblygodd y grŵp gyfleuster efelychu realiti-cymysg a phrofi-ar-ddefnyddwyr o’r enw PEL (Perceptual Experience Lab) i helpu i ddylunio a datblygu cynhyrchion newydd. Bydd yr araith yn rhoi trosolwg byr o’r gwaith a wneir gan y grŵp ac yn benodol pam cafodd PEL ei ddatblygu; sut cafodd PEL ei ddylunio; a galluoedd PEL, gan gynnwys enghreifftiau o brosiectau yn y gorffennol a phrosiectau newydd.