Pan fydd dwy edau o ymarfer gwahanol wedi’u plethu, mae rhywbeth newydd yn cael ei greu. Mae Annie Fenton, graddedig o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, a’i chydymaith o raglen ‘ABF Step Change’, Heledd C Evans, yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn yr Uned Deori, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac wedi dod ynghyd i greu gosodiad newydd sy’n archwilio sut y gall gwaith clywedol a gweledol fodoli gyda’i gilydd, gan drawsnewid gofodau a siapio profiadau. Mae’r gwaith newydd hwn, a ddatblygwyd trwy gyfnod preswyl i artistiaid yn ‘Shift’, yn archwilio’r tebygrwydd rhwng arferion y ddwy Artist ac yn adlewyrchu eu hawydd i greu profiadau y gall eu cynulleidfaoedd fod yn rhan ohonynt. Trwy gyfres o ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r darn hwn, gwahoddir ymwelwyr i ddod i ymgysylltu â’r gwaith ac arsylwi ar sut mae’n newid yn ystod y cydweithredu.
Mae ‘Interwoven’ yn rhedeg rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 2 2019.
Digwyddiadau
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd – Digwyddiad agoriadol rhwng 18:00 – 22:00
Dydd Sul 1 Rhagfyr – Artistiaid yn sgwrsio â Claire Vaughn 15:00 – 17:00
Dydd Llun 2 Rhagfyr – Digwyddiad cau 18:00 – 22:00
SHIFT
Islawr Canolfan Capitol
Heol y Frenhines
Caerdydd
CF10 2HQ
Mae gan SHIFT fynedfa ar Heol y Frenhines drws nesaf i Cafe Nero:
Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am gydweithrediad Annie a Heledd trwy:
https://www.facebook.com/events/2413656112089558/?active_tab=about