Gallu Cymdeithasol Clai

Caiff potensial defnyddio clai mewn prosiectau ymgysylltu cymdeithasol ei gydnabod yn fwyfwy. Mae’n ddeunydd unigryw. Mae clai yn rhan o’r ddaear, yn cysylltu pawb ac mae’n hygyrch, yn ddemocrataidd ac uniongyrchol i’w gyffwrdd a gall adfer ein hymdeimlad o gorfforoldeb, effaith a chreadigrwydd.

Mae adran Serameg Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd wedi chwarae rhan hollbwysig yn ysbryd yr oes hon mewn cymdeithas fel rhan o’i chyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr yn trafod serameg gyfoes. Rydym wedi cydweithio ag Artworks Cymru, Gŵyl Cerdd a Chelfyddydau’r Dyn Gwyrdd, menter ‘Hey Clay’ y Cyngor Crefftau ac wedi llwyfannu ein digwyddiadau cyhoeddus ein hunain sef ‘Beyond Borders’, ‘Growing Exhibition’ ac mae prosiectau o’r fath yn rhoi mwy na chyd-destun yn unig i brofiadau dysgu myfyrwyr. Daw’r myfyrwyr i gysylltiad ag arddulliau creadigol amgen y gellid eu datblygu a’u defnyddio yn eu hymarfer. Mae’n mynd â nhw y tu hwnt i gyfyngiadau eu stiwdio, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol yn y byd celf a thu hwnt.

Mae menter ‘Hey Clay’ y Cyngor Crefftau wedi bod yn gymorth mawr yn hyn o beth. Mae’n ddathliad blynyddol o glai gyda’r nod o annog digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir ar yr un pryd ledled y DU dros dri diwrnod. Rydym yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn. Mae mwy o wybodaeth am gymryd rhan mewn gweithgareddau CSAD Ceramics a rhai sylwadau gan fyfyrwyr am ein digwyddiadau ‘Hey Clay’ isod:

Stori Toni – Stompio Clom: Hey Clay
Dewisodd yr adran Serameg natur ein digwyddiad yn ofalus er mwyn dod â phobl at ei gilydd a dangosodd sut y gallai gweithio gyda’r ddaear adfer ein cysylltiad â hi a gyda’n gilydd.

Gwnaethom gynnal amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y dydd a gwahoddwyd pobl i gymryd rhan ynddynt. Gwnaeth y fyfyrwraig raddedig ddawnus dros ben Imogen Higgins (o adran Serameg Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd) serennu â’i ffwrn glom gerfluniol a’i darlith a oedd yn egluro amrywiaeth a phwysigrwydd y technegau/arddull ledled y byd.

Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys cerflun mawr Jen Hawthorn (myfyrwraig L6) a oedd yn addysgu ei thechnegau rholio a ddysgodd yn ystod ei phrofiad ERASMUS yn Sweden. Gwnaeth Jessica Dent a Mikky Saunby (myfyrwyr L5 a L6) gynnal gweithdy yn addysgu hanfodion adeiladu eich ffwrn glom eich hunain ac ymchwiliodd Ellie Cooper (L6) i’r dulliau a’u profi dros yr haf, a byddai modd creu pob ffwrn ar raddfa fwy er mwy bod yn addas i goginio pizza.

Cefais ddiwrnod gwych ac roedd yn brofiad ymarferol a wnaeth fy ysbrydoli a dod â phobl at ei gilydd i ddathlu’r deunyddiau brwnt sy’n greiddiol i ni ac sy’n hanfodol i’n bywydau.

Charlotte Manser – Her Taflu Cymru: Hey Clay

Gofynnwyd i mi osod her i banel o arbenigwyr ym maes serameg fel rhan o’n digwyddiad Hey Clay ‘Her Taflu Cymru’. Roedd fy ngwaith yn archwilio’r siapiau a gaiff eu creu drwy adeiladu torch a defnyddio gwrthrychau a daflwyd, felly gosodais y dasg o adeiladu torch o amgylch silindr a daflwyd i’r arbenigwyr.

Bu’n rhaid i mi arwain y rhan hon o’r digwyddiad gan egluro’r hyn yr oedd yn ei gynnwys a dangos sut i’w wneud, felly roedd yn golygu addysgu yn y bôn ond o flaen cynulleidfa fawr a gwnaeth fy helpu i baratoi ar gyfer bywyd yn dilyn fy astudiaethau wrth i mi ddechrau gweithio fel Intern Addysgu Graddedig. Roedd yr her hefyd yn gofyn i mi roi adborth a beirniadaeth a gwnaeth hynny yn bendant fy helpu wrth weithio gyda myfyrwyr TGAU, Safon Uwch a’r Fagloriaeth Ryngwladol!

Helpodd y digwyddiad hwn gyda fy ymarfer proffesiynol mewn sawl ffordd gan ei fod wedi fy ngalluogi i archwilio’r defnydd o serameg y tu allan i’r stiwdio. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhan werthfawr o fy mhrofiad yn y brifysgol er mwyn deall y byd serameg ehangach a’r sgiliau yr oedd yn eu meithrin.

Chwarae ar Brosesau Anarferol

Liam Clayton – Chwarae ar Brosesau Anarferol: Hey Clay

Dros y blynyddoedd yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad ‘Hey-Clay’ ac mae pob un ohonynt wedi bod yn fuddiol ac yn fwy na hynny, yn hwyl!

O stompio clom i daflu gan ddefnyddio cyfarpar troi mawr ac o rannu sgiliau i farddoniaeth goncrit, mae cyfranogiad wedi bod yn elfen hollbwysig o bob digwyddiad ac mae hynny wedi bod yn beth gwych, pa rôl bynnag sydd gennych. Fel myfyriwr, rwyf wedi cael y cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl wahanol a rhannu gwyrth clai ac mae’r cyfle hwn yn brin iawn yn y wlad hon gan ystyried lefel y ddealltwriaeth sydd gennym o’r deunydd. Mae’n dysgu’r cyhoedd am ddulliau a thechnegau ac rwyf i wedi bod yn dysgu gyda phob un ohonynt gan ddatblygu gwybodaeth am sut y gellid defnyddio clai mewn ffordd hwyliog a diddorol i bawb dan sylw.

I mi, yn y digwyddiad ‘Chwarae ar Brosesau Anarferol’ roedd hyn fwyaf amlwg, digwyddiad a oedd yn rhannu amrywiaeth o sgiliau serameg a gafwyd o enghreifftiau hanesyddol ac arddulliau cyfoes. Roedd ein prif gynulleidfa yn cynnwys plant o’r clwb dydd Sadwrn lleol. Roedd hi’n hyfryd gweld brwdfrydedd y cyd-fyfyrwyr a’r plant fel ei gilydd yn baeddu yn ystod y broses! Yn wahanol i ystafell ddosbarth ddiflas, cafodd y plant gyfle i roi cynnig arni a gwnaethant fanteisio ar y cyfle yn syth, gan ddefnyddio eu creadigrwydd mewn amgylchedd heb bwysau. Roedd yn ddigwyddiad gwych i fod yn rhan ohono.


Mae Hey-Clay yn ddigwyddiad gwych i ddysgu rhywbeth newydd mewn amgylchedd lle y gallwch gael paned o de a hwyl gyda chriw o bobl ddiddorol a beth allai fod yn well na hynny?