Goruchwylio ar gyfer Cymru yn Fenis – wythnos 4 – myfyrdod

Mae Charlotte Grayland, sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf mewn Celf Gain, yn un o dri o fyfyrwyr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd sy’n cymryd rhan yn rhaglen Goruchwylio Arbennig Cymru yn Fenis Cyngor Celfyddydau Cymru, gan dreulio mis yn Biennale Fenis yn helpu i oruchwylio’r arddangosfa ym Mhafiliwn Cymru gan Sean Edwards, darlithydd Celf Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Yma mae Charlotte yn myfyrio ar ei phrofiad.

‘Fel rhywun nad oedd erioed wedi goruchwylio gofod celf o’r blaen, nac wedi ymweld â’r Biennale, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl wrth weithio i Cymru yn Fenis yn goruchwylio arddangosfa Sean Edwards ar gyfer Biennale rhif 58.

‘Mae’r ffordd y mae’r Biennale yn gallu dwyn pobl ynghyd yn sgil eu cariad at gelf gyfoes wir wedi fy synnu. Er bod thema’r Biennale eleni yn eithaf tywyll, sef “Boed i chi fyw mewn cyfnod diddorol”, ar y cyfan mae pobl wedi bod yn optimistaidd ac yn agored iawn i syniadau a safbwyntiau newydd.

‘Efallai fod elfennau negyddol y gwaith yn tanio awydd yn y gynulleidfa i weld newid.

‘Yn ystod fy nghyfnod yn goruchwylio i Cymru yn Fenis, dwi wedi sylweddoli fy mod wedi cyfarfod 1,648 o bobl o bob cwr o’r byd a hynny yn y gofod arddangos yn unig. Rydw i a’m cyd-oruchwylwyr (Esyllt Lewis, Jenny Cashmore a Carlota Nobrega) wedi trafod diwylliant, traddodiad, gwaith celf, a gwleidyddiaeth Cymru a phopeth arall bron gyda nifer fawr o’r bobl hyn. Rydw i wedi clywed straeon pobl ac wedi rhannu gwybodaeth a safbwyntiau â nhw. Roedd un dieithryn yn arbennig o garedig a rhoddodd docyn am ddim i’r Arsenale i mi (diolch eto pwy bynnag ydych chi).

‘Un peth nad oeddwn i wedi’i ddisgwyl wrth oruchwylio yma oedd cael y cyfle i gyfarfod cymaint o gyd-oruchwylwyr o’r pafiliynau eraill. Mae’r gymuned hon sydd wedi deillio oherwydd ein bod wedi rhannu profiad o weithio yn y Biennale, wedi bod yn brofiad cwbl unigryw. Mae’r cyfle i wneud cysylltiadau gydag unigolion creadigol eraill o bob cwr o’r byd yn un o’r pethau y byddaf yn ei drysori fwyaf am y profiad hwn. Mae nifer o gyfleoedd a phrosiectau cydweithredol creadigol wedi’u trafod a’u datblygu oherwydd y platfform hwn, gyda goruchwylwyr allanol a hefyd yn fewnol o fewn tîm Cymru yn Fenis. Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau hyn yn gweld golau dydd.

‘Ar y cyfan mae’r profiad hwn wedi gwneud i mi deimlo’n obeithiol iawn. Er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd, mae gan gelf y gallu i ddwyn pobl ynghyd a chreu llwybrau fel y gall pobl drafod a datrys problemau.

‘Rydw i’n teimlo’n obeithiol iawn am y dyfodol.’