Graddedigion darlunio Ellie a Ffion yn creu murlun ar gyfer Ysbyty y Seren

Mae dau o raddedigion Darlunio 2020, Ellie Roberts a Ffion Morgan, wedi bod yn gweithio gydag Esyllt George, Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a rhai o raddedigion celf eraill sy’n creu murluniau mewn ysbyty adsefydlu dros dro ym Mhen-y-bont ar Ogwr o’r enw Ysbyty y Seren. Mae Ellie yn esbonio mwy am y prosiect a pham y dewisodd gymryd rhan:

‘Mae’r rhanfwyaf o bobl yn derbyn y gall celf chwarae rhan bwerus mewn lles unigolion. Mewn lleoliad iechyd, fel ysbyty, mae cyfle i gelf gynnig difyrrwch dymunol oddi wrth y clinigol; rhywbeth atyniadol i’r staff a’r cleifion. Yn y prosiect hwn, ein nod oedd trawsnewid gofod clinigol cyffredinol yn rhywbeth mwy croesawgar i’r rhai a fyddai’n treulio llawer o amser yma, a allai fod wedi’u hynysu oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau. Roedd yn bwysig i ni fod y gwaith yn llachar, yn lliwgar ac yn anwleidyddol, gan dynnu eu sylw a chynnig elfen o ddihangfa.

‘Fel arlunydd, roeddwn i’n teimlo’n ddiolchgar fy mod i’n gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac yn arbennig i’r GIG sydd wedi gweithio’n ddiflino trwy’r pandemig ac sy’n cynrychioli gobaith i gynifer o bobl, yn lleol ac yn genedlaethol. Mewn cyfnod mor ansicr, roedd dylunio a chreu’r murluniau hyn o gymorth mawr i mi a fy nhîm deimlo’n gadarn a diolchgar.

‘Drwy ein nod o gadw’r gwaith yn ysgafn ac yn gadarnhaol, tyfodd thema natur yn eithaf organig ymhlith gwaith yr artistiaid.  Fe wnaethon ni groesawu hyn, oherwydd yr hyn y bydd y cleifion yma yn debygol o golli allan arno fwyaf yw’r awyr agored. Roedd thema natur yn caniatáu i siapiau meddal eistedd ochr yn ochr â lliwiau llachar, siriol, gyda’r nod o godi hwyliau. Er gwaethaf ein harddulliau celf gwahanol iawn, mae ein creadigaethau wedi’u cysylltu drwy eu pwrpas a’u bwriad. Gobeithiwn fod ein celf yn caniatáu eiliad o ymwybyddiaeth ofalgar dawel i’r gwylwyr ac yn cyfrannu at ymdeimlad cyffredinol o dawelwch a lles.

 

‘Rwy’n gobeithio y bydd mwy o gyfleoedd a chyllid yn ymroi i ddod â chelf i ofodau meddygol yn y dyfodol.’