Annie Fenton, a wnaeth raddio o’n cwrs Artist Dylunydd Gwneuthurwr yw un o’r artistiaid sydd wedi creu gwaith ar gyfer Taith Cerfluniau Raveningham yn Norfolk eleni.
Eglurodd Annie ‘Am gyfnod, rwyf wedi bod yn awyddus i greu gwaith yn yr awyr agored, gan ddefnyddio a gweithio gyda natur. Mae’n teimlo fel dilyniant naturiol i’m hymarfer ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio gwneud mwy ohono yn y dyfodol. Mae’r gosodwaith yn rhan o’r Llwybr Cerfluniau Raveningham yn Norfolk ac rwyf mor ddiolchgar bod y digwyddiad hwn yn dal i fynd yn ei flaen er gwaethaf Covid-19.
‘Mae’r gosodwaith ar y safle hwn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng pobl a gofod ac mae wedi tyfu mewn ymateb uniongyrchol i’r amgylchedd naturiol. Ers misoedd rydym wedi cael ein caethiwo y tu mewn ac mae’r darn hwn yn dechrau cwestiynu sut y gallem ail-ystyried gofodau newydd yr ydym yn dod ar eu traws wrth i fywyd yn araf symud tuag at normal newydd. Mae strwythurau moel y llinellau yn creu cyferbyniad â’r ffurfiau naturiol yn y coetir hwn ac yn rhyngweithio â nhw. Wrth i chi symud o gwmpas y gofod, mae siapiau gwahanol yn cael eu creu ac mae pob safbwynt ychydig yn wahanol.’
Mae’r Llwybr yn rhedeg drwy fis Awst a gellir archebu tocynnau ar wefan Llwybr Cerfluniau Raveningham – https://raveninghamsculpturetrail.com/