10-13 Hydref 2019
Mae Gŵyl Ddylunio Caerdydd yn ôl ac yn hawlio’r brifddinas rhwng 10 ac 13 Hydref gan ddathlu ei chyfoeth o dalent wrth arbrofi a chydweithredu â dylunwyr o bob lliw a llun.
Fel un o brif noddwyr yr ŵyl, mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at weld cynlluniau’r tîm cydlynu newydd yn dwyn ffrwyth, sy’n dangos sut mae dylunio yn ganolog i greu cymunedau hapus a chynaliadwy a chreu profiadau hardd yn ein bywyd bob dydd. Mae ein staff a’n myfyrwyr yn cymryd rhan unwaith eto, ac yn cynnal y digwyddiadau canlynol. Felly, da chi galwch heibio i’w gweld – mae’r holl fanylion ar wefan yr Ŵyl: https://cardiffdesignfestival.com/cy/hafan/
Marciau: Ffasiwn – archwilio potensial dylunio gyda siapiau yn hytrach na chreu patrymau ar gyfer dyluniadau.
Mae’r arddangosfa hon gan fyfyrwyr BA Ffasiwn yn archwilio potensial ffurfiau trwy drin siapiau o bob maint a siâp yn greadigol a mentrus, sy’n creu silwetau gweledol hynod greadigol mewn ffordd gyffrous, gan greu EFFAITH WELEDOL sy’n tynnu sylw at y siapiau silwét trawiadol a negeseuon cudd sy’n procio’r meddwl.
Pryd: Dydd Iau 10 – Dydd Gwener 18 Hydref, 10:00 – 17:00
Lle: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Am ddim
Cyfle i gwrdd doniau creadigol ac artistiaid preswyl Rhwydwaith Celf, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ewropeaidd Met Caerdydd
Rydym wedi dwyn dylunwyr ac artistiaid ynghyd sy’n gweithio gyda gwyddoniaeth, technoleg a dylunio digidol at ei gilydd i greu gosodiadau, perfformiadau, cerddoriaeth a chelf sain, a hybu a hyrwyddo ein Gŵyl EASTN-DC a gynhelir ym mis Mawrth 2021.
Pryd: Dydd Gwener 11 Hydref, 15:30 – 17:00 – galwch heibio i ddweud shw’mae
Lle: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Am ddim
Ydych chi’n gyfforddus? – Gweithdy dylunio, adeiladu a phrofi cadeiriau, gan ddefnyddio pecyn o gydrannau.
Dyma weithdy dan ofal myfyrwyr cwrs Meistr Dylunio Cynnyrch, sy’n cynnig sesiwn ymarferol oddeutu awr o hyd i ddylunio cadair newydd ymarferol gan ddefnyddio pecyn o gydrannau. Cewch gymorth i ddylunio a gosod eich cadair at ei gilydd. Yna, byddwn yn tynnu llun o’ch cadair orffenedig a’i lanlwytho i oriel gadeiriau ar-lein … ac wrth gwrs, mae croeso i chi fel dylunydd ymddangos yn yr oriel hefyd.
Pryd: Dydd Gwener 11 Hydref, dydd Sadwrn 12 Hydref, 10:00 – 16:30 – galwch heibio i gymryd rhan
Lle: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Am ddim
Dylunio ac Ymgyrchu
Gweithdy dan ofal myfyrwyr, tiwtoriaid a graddedigion cwrs BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg yw Dylunio ac Ymgyrchu. Dyma wahoddiad i bobl ifanc 10-14 oed a’u rhieni, i ymuno â ni i archwilio sut beth yw bod yn ymgyrchydd a dyluniwr. Byddwn yn trin a thrafod hyn trwy gyfrwng darlunio a chollage, lluniau eglurhaola theipograffi. Os ydych chi ar dân dros newid yn yr hinsawdd, hawliau anifeiliaid, materion rhywedd neu unrhyw beth arall sy’n effeithio arnoch chi yn eich byd, byddem yn falch o’ch croesawu i’n gweithdy dwyawr!
Pryd: Dydd Sadwrn 12 Hydref, 10:00 – 12:00
Lle: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Am ddim
The Great Design Bake Off
Mewn sesiwn wedi’i threfnu gan ein myfyrwyr BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg, dyma gyfle i bob darpar ddylunydd arddangos eu diddordeb brwd mewn dylunio, boed ym maes graffeg, cynnyrch, ffasiwn, pensaernïaeth – trwy bobi!
Dangoswch eich tartenni teipograffig, eich cacennau cain neu’ch bara brith brwtalaidd e mwyn cael cyfle i ennill tlws The Great Design Bake Off. Bydd pob teisen yn cael ei gwerthu er budd elusen leol wedyn (i’w chyhoeddi’n fuan). Wrth gyflwyno’ch cynnyrch, cofiwch nodi’r holl gynhwysion er mwyn inni allu labelu unrhyw alergedd.
Pryd: Dydd Sadwrn 12 Hydref, 13:00 – 14:00
Lleoliad: Hwb Gŵyl Ddylunio Caerdydd, Little Man Coffee Co, Stryd y Bont, Caerdydd CF10 2EE
Am ddim
Cwis Gŵyl Ddylunio Caerdydd
Dewch i brofi’ch gwybodaeth am fyd dylunio (a’ch gwybodaeth gyffredinol) mewn digwyddiad hwyliog i gloi’r ŵyl mewn steil!
Gyda gwobrau di-ri a chyfle i gael eich coroni’n Ben Bandit Dylunio Cymru!
Pryd: Nos Sul 13 Hydref, 19:30 – 21:30
Lle: Kin+Ilk, The Maltings, East Tyndall Street, Caerdydd, CF24 5EZ
Am ddim