Mae’n amser gwneud cais ar gyfer Uned Ddeori YGDC (CSAD) am 2019-20! Fel bob amser, rydyn ni’n awyddus i bwysleisio bod y ‘Gofod Inc’ ar agor i raddedigion o bob un o’n rhaglenni, felly gallech fod â’ch bryd ar fod yn arlunydd wrth eich gwaith, yn ddylunydd am lansio eich busnes neu fenter gymdeithasol eich hun. Rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn eich cais.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr cyfredol YGDC Lefel 6 neu rai â gradd Meistr a hefyd gan rai wnaeth raddio drwy’r rhaglenni gradd neu ôl-radd yn 2017 a 2018.
Rydyn ni’n hynod o falch o lwyddiant y rhai sydd eisoes wedi cwblhau blwyddyn yn y ‘Gofod Inc’ ers i ni ei sefydlu yn 2014. Er enghraifft, mae gan yr arlunydd Aidan Myers bellach stiwdio yn ‘The Sustainable Studios’, mae’n arddangos ei waith yn y DU, Ewrop ac UDA, ac yn ddiweddar wedi bod yn treulio amser yn gweithio yn India. Yn ddiweddar bu’r gwneuthurwyr graddedig Evan Moore yn arddangos ei gynlluniau goleuadau yn ngŵyl ddylunio’r ‘London Design Festival’ tra bod y printydd Molly May Lewis wedi cyflawni sawl comisiwn ar gyfer ysbytai, byrddau iechyd a dylunwyr yn ogystal â pharhau i greu, arddangos a gwerthu ei gwaith ei hunan. Mae’r dylunydd tecstilau Clojo Bedingham wedi lleoli ei busnes yng Nghernyw ac yn anfon ei gwaith i bobman yn y DU. Mae Helen Turnbull yn parhau i weithio fel darlunydd ond hefyd yn defnyddio ei sgiliau a’i phrofiad mewn menter gymdeithasol sy’n cefnogi’r di-gartref.
Mae preswylwyr cyfredol ‘Gofod Inc’ hefyd yn llewyrchus, gyda Clio Anastasiou yn gweithio ar gomisiwn mawr i greu celf cyhoeddus ar gyfer datblygwr tai, Toni de Jesus yn gwerthu ei waith serameg drwy oriel enwog ‘Mint Gallery’ yn Llundain a Marek Liska yn arddangos gwaith yn arddangosfa Sêr 2019 yn oriel ‘New Ashgate Gallery’, Farnham ac wedi gwneud gwaith comisiynau ar gyfer gweithgareddau ymglymiad y cyhoedd mewn gwyliau celfyddydol. Rydyn ni hefyd yn ymfalchïo fod y darlunydd Mari Phillips newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf.
Rydyn ni’n cynnal Gwersyll Bŵt ar Bnawn Mercher, Mawrth 13eg, fydd o help i chi gasglu gwybodaeth i’w gynnwys ar eich ffurflen gais. Does dim rhaid i chi fynychu, ond efallai byddech yn gweld hyn o fudd i chi. Mae’r lle yn brin, felly dylech neilltuo eich lle ymlaen llaw.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’r ‘Gofod Inc’ ydy Dydd Gwener, Ebrill 5ed a bydd y rhaglen ‘Gofod Inc’ yn digwydd o Ddydd Llun, Medi 16eg 2019 hyd Ddydd Gwener, Medi 4ydd 2020.
Os hoffech drafod eich syniadau neu eich cais, neu gael rhagor o wybodaeth neu ffurflen gais, neu neilltuo eich lle ar y Gwersyll Bŵt, yna cysylltwch ag Angie Dutton – adutton@cardiffmet.ac.uk.