Myfyriwr BA Ffotograffiaeth yn cipio’r eicon Cymraeg ar gyfer arddangosfa Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ddewiswyd un o ddelweddau du a gwyn celf gain Tony Charles, myfyriwr cwrs BA (Anrh) Ffotograffiaeth trydedd blwyddyn, o Geraint Jarman, y cerddor, bardd a chynhyrchydd teledu i’w gynnwys mewn arddangosfa bwysig o’r enw ‘RECORD: Gwerin, Protest a Phop’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Tynnwyd y llun gan Tony y llynedd fel rhan o’i brosiect i dynnu llun arloeswyr byd Cerddoriaeth Bop Cymru o’r 1960au.

Mae’r arddangosfa yn defnyddio Archif Cerddoriaeth Cymru ac Archif Sgrîn a Sain Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru i olrhain hanes cerddoriaeth Cymru o’r crwth i Catatonia gan edrych ar y traddodiad cynnar, dylanwad unigolion fel Meredydd Evans yn y BBC a sut mae labeli recordiau Cymreig wedi gweithio i gynhyrchu cerddoriaeth werin, protest a cherddoriaeth bop chwyldroadol. Mae’r arddangosfa yn parhau tan 1 Chwefror 2020.

Dywedodd Tony, “Roeddwn i wrth fy modd pan brynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fy mhortreadau celf gain o’r artistiaid eiconig Cymreig hyn ar gyfer ei harchif lluniau yn gynharach eleni ac yn gyffrous iawn bod delwedd Geraint wedi cael ei dewis ar gyfer yr arddangosfa allweddol ar gerddoriaeth a diwylliant Cymru.”

Mae delweddau Tony o Geraint Jarman wedi ymddangos ar glawr y cylchgrawn wythnosol “ Golwg” ac ar glawr CD diweddaraf Geraint.

Llun: Tony Charles yn siarad am ei bortread o’r eicon Cymreig Geraint Jarman gyda Wil Troughton, curadur yr arddangosfa.