2021 Episode 2: Borislava Yotsova
Archwilio Rôl Ystyriaeth Ddiwylliannol mewn Dylunio Mewnol
Mae’r bennod hon yn cynnwys sgwrs â Borislava Yotsova, myfyriwr blwyddyn olaf ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio Mewnol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, am ei hymchwil blwyddyn olaf sy’n archwilio rôl ystyriaeth ddiwylliannol mewn Dylunio Mewnol ac sy’n gofyn a oes angen cynnwys ystyriaeth ddiwylliannol yng nghwricwlwm Dylunio Mewnol.
Yn sgwrsio â Borislava y mae Dr Martyn Woodward, Deon Cyswllt: Ymgysylltu â Myfyrwyr, a’i goruchwyliwr traethawd hir Sarah Smith, Darlithydd mewn Entrepreneuriaeth Greadigol Celf a Dylunio.
Gallwch ddarganfod rhagor am waith Borislava trwy ei gwefan www.borislavayotsova.com neu ar Instagram @biydesign
Os hoffech ddysgu rhagor am rai o’r syniadau a drafodwyd yn y bennod hon, efallai y gwelwch fod yr adnoddau canlynol yn ddiddorol:
Darllen:
- Hadjiyanni, T., 2013. Rethinking Culture in Interior Design Pedagogy. Journal of interior design, 1(1)
- Plunket, D., 2013. The Profession that Dare Not Speak its Name. In: G. Brooker & L. Weinthal, eds. The Handbook of interior Architecture and Design. London: Bloomsbury Publishing Plc.
- Roller, M. & Sischka, J., 1997. The Reichstag’s New Dome. Structural Engineering International, 7(4), pp. 249-451.
Gwefannau:
- Kelly Wearstler – The Harper Avenue Residence
- Foster & Partners – Reichstag, New German Parliament (Berlin)
Mae’r delweddau canlynol yn dangos y mannau a ddyluniodd Borislava ar gyfer ei harbrawf o fewn Labordy Profiad Canfyddiadol (LPC) y Brifysgol yn ogystal ag un o’r delweddau in situ yn ystod y profi (Cliciwch arnynt i weld y sgrin lawn):
Cerddoriaeth thema podlediad gan Transistor.fm. Learn how to start a podcast here.