2021 Episode 5: Viviana Bostan
Cyfathrebu â’r byd trwy arteffactau: chwilio am ddatrysiadau dylunio cynaliadwy a pharhaol
Mae’r bennod hon yn cynnwys sgwrs â Viviana Bostan, myfyriwr blwyddyn olaf ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, am ei hymchwil blwyddyn olaf sy’n archwilio rôl y dylunydd yn yr 21ain ganrif ac ym mha fodd y gallai dulliau o ymdrin ag arferion dylunio greu cysylltiadau newydd rhwng bodau dynol a’r amgylchedd naturiol.
Yn sgwrsio â Viviana y mae ei goruchwyliwr traethawd hir, Dr Martyn Woodward, a Dr Clara Watkinsei Huwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Dylunio Cynnyrch.
Gallwch ddarganfod rhagor am waith Viviana trwy ei phortffolio ar-lein yn https://www.behance.net/vivianabostan/
Os hoffech ddysgu rhagor am rai o’r syniadau a drafodwyd yn y bennod hon, efallai y gwelwch fod yr adnoddau canlynol yn ddiddorol
Darllen:
- Fry, T., 2018. Design Futuring: sustainability, ethics and new practice. London: Bloomsbury Visual Arts
- Malafouris, L., 2013. How things shape the mind: a theory of material engagement. Cambridge, Ma: Mit Press.
- Ingold, T. 2013. Making: anthropology, archaeology, art and architecture. Milton Park: Abingdon, Oxon.
- Walker, S., 2014. Designing Sustainability. Routledge.
Gallwch gael golwg ar rai delweddau o waith Viviana isod (cliciwch i weld y sgrin lawn):
Cerddoriaeth thema podlediad gan Transistor.fm. Learn how to start a podcast here