2021 Episode 6: Erin Williams

Uwchgylchu y Tu Hwnt i Effeithlonrwydd Adnoddau: Creu Ymlyniad a Chysur Emosiynol rhwng Dilledyn a Gwisgwr

Mae’r bennod hon yn cynnwys sgwrs ag Erin Williams, myfyriwr blwyddyn olaf ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, am ei hymchwil blwyddyn olaf sy’n archwilio’r rôl y gall uwchgylchu ei chwarae wrth greu agwedd mwy cynaliadwy at ffasiwn yn ogystal â chreu ymlyniad rhwng pobl a’u dillad.

Yn sgwrsio ag Erin y mae Dr Martyn Woodward, Deon Cyswllt: Ymgysylltu â Myfyrwyr, a’i goruchwyliwr traethawd hir, Huw Williams, Darlithydd: Arlunydd Ddylunydd Gwneuthurwr.

Gallwch ddarganfod rhagor am waith Erin trwy ei gwefan https://erinoliviadesigns.wordpress.comneu ar Instagram @erinoliviawilliams

Os hoffech ddysgu rhagor am rai o’r syniadau a drafodwyd yn y bennod hon, efallai y gwelwch fod yr adnoddau canlynol yn ddiddorol:

Darllen:

  • Chapman, J (2005) ‘Emotionally Durable Design: Objects, Experiences and Empathy’ London: Earthscan
  • Braungart, M and McDonough, W (2009) ‘Cradle to Cradle: Remaking the Way We Make Things’ London: Vintage
  • Fletcher, K (2008) ‘Sustainable Fashion and Textiles Design Journeys’ [E-book] Sterling: Routledge
  • Fletcher, K and Grose, L (2012) ‘Fashion and Sustainability: Design For Change’ London: Laurence King Publishing Ltd

Gwefannau:

Dolenni defnyddiol a ddefnyddiwyd gan Erin ar gyfer ei hastudiaeth achos Bode:

Gallwch gael golwg ar rai delweddau o waith Erin isod (cliciwch ar y delweddau i weld y sgrin lawn):


Cerddoriaeth thema podlediad gan Transistor.fm. Learn how to start a podcast here


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *