Rydyn ni’n cynnig cyfle i ymwelwyr â’n Sioe Haf i ddysgu rhai o’r sgiliau rydyn ni’n eu haddysgu yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD) felly dewch draw rhwng hanner dydd a 4.00 bnawn Sul Mehefin 2 ac ymunwch â dosbarth paentio, dysgu sut i dorri â laser neu ddylunio a phwytho bathodyn, creu crochenwaith neu raglennu teclyn ‘Raspberry Pi’. Gallwch alw heibio rhai o’r gweithgareddau tra bod angen cofrestru ar gyfer rhai eraill wrth gyrraedd gan fod llefydd yn brin. Darllenwch yr hyn sydd ar gael isod a chynlluniwch eich pnawn tra’n edrych ar waith myfyrwyr y drydedd flwyddyn a dysgu rhai o’u sgiliau hwy hefyd.
Gwybodaeth am y gweithgareddau
Rhowch dro ar greu crochenwaith ar yr olwyn!!Profi’r creu – o ddarparu’r clai hyd at ddysgu sut i reoli’r olwyn, canoli’r clai, ac yna rhoi cynnig ar greu potyn! Un pelen o glai y pen. Bydd ffedogau ar gael – ond gall eich dillad fod ychydig yn llychlyd. Amser: 1-1.45pm, 1.45-2.30pm, 2.30-3.15pm – cofrestrwch ym mynedfa CSAD i ddewis eich amser. At bwy yr anelir y gweithgaredd: Oedolion a phlant, 8 mlwydd a throsodd. Rhaid bod oedolyn gyda phob plentyn. Dylai rhai yn eu harddegau gael oedolyn gyda nhw ond byddan nhw’n cael cyfle i greu potyn eu hunain. DS: Ni fydd y crochenwaith yn cael eu caledu mewn ffwrn ond gallwch fynd â nhw adre os mynnwch chi Ym mhle: Y Crochendy, llawr isaf Tiwtor: Margo Schmidt |
Paentiwch dirlun dyfrlliwRhowch gynnig ar baentio tirlun gan ddefnyddio dyfrlliw a dull cam wrth gam fydd yn caniatáu i chi ail-greu un o’r hen gampweithiau. Amser: 1-3pm – galwch i mewn a rhowch gynnig arni At bwy yr anelir y gweithgaredd: Oedolion a phlant, 8 mlwydd a throsodd. Rhaid bod oedolyn gyda phob plentyn. Ym mhle: Y Stiwdio Arlunio, 3ydd llawr Tiwtor: Sebastian Aplin |
Gweithdy Hacio CreadigolAidan Taylor yn cynnal Gweithdy Hacio Creadigol fydd yn caniatáu i’r cyfranogwyr hacio cerflun rhyngweithiol. Does dim angen profiad blaenorol, dewch i glywed am y posibiliadau gyda chaledwedd hacio a rhaglennu creadigol. Amser: 1-3pm – galwch i mewn a rhowch gynnig arni At bwy yr anelir y gweithgaredd: Oedolion a phlant, 8 mlwydd a throsodd. Rhaid bod oedolyn gyda phob plentyn. Ym mhle: FabLab Caerdydd, y llawr gwaelod Tiwtor: Aidan Taylor |
Dylunio a phwythoMae’r gweithdy blasu 1 awr o hyd yn eich cyflwyno i bwytho ac ‘applique’ i ddylunio a phwytho broetsh, patshyn neu ddolen allwedd i’w gorffen rôl mynd adref. Bydd y sesiwn yn codi awydd arnoch i fentro ar yr amrediad o dechnegau tecstilau cyffrous sydd ar gael drwy ein dosbarthiadau oriau hamdden yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Amser: 1-2pm or 2-3pm – cofrestrwch ym mynedfa CSAD i sicrhau eich lle. At bwy yr anelir y gweithgaredd: Oedolion a phlant, 8 mlwydd a throsodd. Rhaid bod oedolyn gyda phob plentyn. Ym mhle: Gofod Calon/Heart, llawr cyntaf Tiwtor: Karen O’Shea |
Creu Bathodyn â LaserCewch ddewis eich siâp o fathodyn, ychwanegu’ch enw a’i ysgythru / naddu’r bathodyn o bren haenog ar lif laser FabLab. Amser: Galwch heibio rhwng 12 a 2pm – cyntaf i’r felin fydd hi, yna sesiwn eto 2-4pm – cofrestrwch ar gyfer y sesiwn wrth gyrraedd. At bwy yr anelir y gweithgaredd: Oedolion a phlant, 8 mlwydd a throsodd. Rhaid bod oedolyn gyda phob plentyn. Dylai’r plentyn neu’r oedolyn fod yn deall rhywbeth am gyfrifiadur. Ym mhle: FabLab Caerdydd, y llawr gwaelod Tiwtor: Kevin Karney |
Dyma oriau’r Sioe Haf – croeso cynnes i bawb:-
10:00 – 18:00 Dydd Mercher 29 Mai
10:00 – 18:00 Dydd Iau 30 Mai
10:00 – 17:00 Dydd Gwener 31 Mai
12:00 – 18:00 Dydd Sadwrn 1 Mehefin
12:00 – 16:00 Dydd Sul 2 Mehefin Dydd Cymuned
10:00 – 18:00 Dydd Llun 3 Mehefin
10:00 – 17:00 Dydd Mawrth 4 Mehefin
Dangosiad Preifat / Noson y Diwydiant:
Dydd Gwener 31 Mai 2019, 17:00 – 20:00