Gwneuthurwyr yfory

.

Bu cysylltiad rhwng cwrs Serameg Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a’r Ken Stradling Collection ym Mryste ers amser maith gyda phrosiect ar y cyd ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn nawr yn ei phedwaredd blwyddyn. Ysgogodd ein partneriaeth y casgliad i ehangu ei mentrau ymglymu cymunedol gan gydnabod arwyddocâd eu hymwneud ag arferion crefftau hanesyddol o ansawdd i addysg. Mae’r casgliad nawr yn rhwydweithio ar draws De Cymru gan gysylltu â chyrsiau cynradd, uwchradd a sylfaen, BA serameg, tecstilau, dyluniadau hyd at raddau MA.

Caiff detholiad o ganlyniadau’r partneriaethau hyn eu dathlu yn fuan mewn arddangosfa o’r enw ‘Future Makers’ (Y Rhai sy’n creu’r Dyfodol) yn oriel Ken Stradling, yn cynnwys gwaith Spencer Penn o’n prosiect 2016 ar y cyd, gwaith Marek Liska a Toni De Jesus o 2017, a Yixia Lin o 2018.

Dyma sut cychwynnodd ein cydweithrediad:

Tynnodd Chloe Monks, un o raddedigion ein cwrs Serameg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio fy sylw gyntaf at y casgliad nôl yn 2015 pan oedd hi wedi treulio’r haf yn ystod ei hail flwyddyn fel stiward yn yr oriel. Ces gyfnod yn fuan wedyn fel Cyfarwyddwr Rhaglen ac achubais ar y cyfle i sicrhau ymglymiad ymarfer proffesiynol ar gyfer ein myfyrwyr. Cwrddais â Julia Donnely, Ken Stradling ei hun, yr ymddiriedolwr Oliver Kent i drafod posibiliadau. Roedd arddangosfa gyfredol ar y pryd yn dangos gwaith oedd yn ystyried ‘hiwmor’ ar draws y casgliad yn amlygu’r gwahaniaethau wrth gyfleu hiwmor yn hanesyddol, mewn deunydd pwnc ac, wrth gwrs, ar draws ehangder arferion materol ond roeddwn i’n chwilio am lai o orchymyn ar gyfer briff prosiect.

Ym maes Serameg, mae un deunydd yn ein huno, ond mae’n hollol amrywiol o ran pwnc, genre a phrosesau’r deunydd. Ein cyfrifoldeb fel staff academaidd ydy creu prosiectau sy’n sail i themâu yn hytrach na’u rhagnodi fel y gall pob dull o fynd ati gan grochenwyr i fodelwyr i arferion sy’n yn seiliedig wneud cysylltiad rhwng y casgliad a’u dull arbennig nhw eu hunain o weithio.

Dechreuais ystyried sut roedd yr adeilad ei hun yn cyfrannu fel cefnlen i’r arteffactau o’i fewn (y testun yn dod o ragarweiniad fy nghatalog ar gyfer cydweithrediad 2016):

Mae creadigrwydd yn gynhenid yn lloriau, muriau a gwrthrychau 48 Park Row. Er bod unrhyw olion o’r preswylwyr gwreiddiol wedi hen ddiflannu pan ail saernïwyd yr adeiladau ar ôl y bomio yn ystod yr ail ryfel byd, mae ei gysylltiad â bywyd teuluol yn parhau ac yn cynnig cyd-destun cyfoethog ar gyfer dehongli ei gasgliad.

Ar y cychwyn, mae onglau rhyfedd tu mewn yr adeilad yn awgrymu bod y raddfa a’r cylch gorchwyl yn gyfyng; mae grisiau cul yn arwain at ystafell fechan gyda lle tân a ffenestr ond yn union fel lleoliadau ‘domestig tebyg sef ‘Kettles Yard’ – Caergrawnt, ‘High Cross House’ –Dyfnaint a ‘Blackwell Arts and Crafts’ – Ardal y Llynnoedd, does dim yn eu clymu wrth swyddogaeth a hanes. Cadw bywyd blaenorol yr adeilad fel tŷ preifat drwy’r manylion mewnol sy’n gwneud y casgliad mor gyfareddol, casgliad sy’n cynnig ffrâm cyd-destunol unigryw ar gyfer amrediad eang o wrthrychau, peintiadau, cerfluniau a chelfi.

Roedd hi’n ymddangos yn glir bod priodweddau yr oriel yn cynnig fframwaith arbennig iawn er mwyn gallu dehongli’r gwrthrychau tu mewn, yn tynnu ar safbwyntiau hanesyddol a domestig a datblygodd hyn yn ffocws i friff y prosiect. Roedd gofyn i’r myfyrwyr ystyried y weithred o ddehongli, sut ydyn ni’n creu fframweithiau i ddynodi gwrthrychau drwy yrru ymlaen i sefydlu cysylltiadau a chyd-gysylltiadau ag e. Nod y gwaith a gynhyrchwyd ganddyn nhw oedd adeiladu ar neu ymateb i’r syniadau oedd o fewn gwrthrych neu eiddo yn y casgliad.

Mae’r myfyrwyr nawr yn talu dau ymweliad â’r oriel, yn gyntaf i nodi darpar gatalydd a siarad â’r ymddiriedolwr, Oliver Kent ac â Ken Stradling am linach hanesyddol a thematig yr oriel – mae’r drafodaeth hon yn ddylanwadol yn eu hysgogi i adolygu’r dulliau y gallai eu hegin ymarfer gyfrannu at drafodaeth bellach. Diben yr ail ymweliad ydy dychwelyd gyda’r gwaith celf canlyniadol a’i ail-leoli o fewn y casgliad gan ystyried y naratifau sy’n codi oherwydd ei gyfosodiad gyda’r arteffact gwreiddiol.

Yn 2016 roedden ni’n ffodus iawn i fanteisio ar dalentau rhyfeddol y ffotograffydd Toril Brancher i dynnu lluniau o waith myfyrwyr yn erbyn y gwrthrych o gatalydd a hithau yn feistr ar gyfansoddi ac (ail)fframio gwrthrychau. Y myfyrwyr eu hunain gofnododd y blynyddoedd dilynol ond roedd y canlyniadau yr un mor ddadlennol.

Ar yr hyperddolen hon ceir blog Chloe Monks a ysgrifennwyd yn ystod yr haf hwnnw.

Y Casgliad:

Mae Casgliad Ken Stradling yn gasgliad hynod o ddyluniadau a chelf cymhwysol a gasglwyd gan by Ken Stradling dros 60 mlynedd o fod yn fân-werthwr a noddwr. O 1948 i’r presennol bu Ken yn rhan o’r broses i ddethol cynhyrchion ar gyfer storfa ddylunio enwog y ‘Bristol Guild of Applied Arts’. Bu ei wybodaeth, ei gyfeillgarwch gyda chymaint o ddylunwyr a gwneuthurwyr yn ganolog i lwyddiant y ‘Guild’. Drwy gydol yr amser, mae Ken wedi caffael darnau iddo ef ei hun – yn gyntaf i ddodrefnu cartref ac yn ddiweddar yn fwy ymwybodol fel casglwr a noddwr. Mae’r casgliad canlyniadol yn unigryw yn y modd y mae’n adlewyrchu natur eang profiad Ken a gwybodaeth am y maes. Mae crochenwaith stiwdio wedi’i leoli ochr yn ochr â darnau cain gan weithgynhyrchwyr fel Rosenthal neu Arabia – mae dur yn ymyl gwydr a derw wrth ochr pren haenog. Mae’n adlewyrchu wyneb cyfnewidiol dylunio a’r celfyddydau cymhwysol yn gywir drwy lygaid un unigolyn ymroddgar yn meddu ar lygad barcud.

Ken Stradling: www.stradlingcollection.org