2021 Episode 3: Alis Joscelyne
Hwyluso Cysylltiad Dyfnach â Natur gyda Gosodwaith Celf Rhyngweithiol
Mae’r bennod hon yn cynnwys sgwrs gydag Alis Joscelyne, myfyriwr israddedig ar y cwrs BA (Anrh) Arlunydd-Ddylunydd: Gwneuthurwr yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, am ei phrosiect ymchwil blwyddyn olaf sy’n archwilio’r syniad y gall cysylltiad dyfnach â natur, wedi’i hwyluso gan osodwaith celf rhyngweithiol, fod yn fuddiol i les yn gyffredinol.
Yn sgwrsio ag Alis y mae Dr Martyn Woodward, Deon Cyswllt: Ymgysylltu â Myfyrwyr Dr Jon PigottUwch Ddarlithydd: Arlunydd Ddylunydd Gwneuthurwr.
Gallwch ddarganfod rhagor am waith Alis trwy ei gwefan www.alisbranwen.co.uk neu ar Instagram @arty.alis
Os hoffech ddysgu rhagor am rai o’r syniadau a drafodwyd yn y bennod hon, efallai y gwelwch fod yr adnoddau canlynol yn ddiddorol
Darllen:
- Elbrecht, C. (2012) Trauma healing at the clay field: A sensorimotor art therapy approach. Jessica Kingsley Publishers.
- Everett, D. (2008) Don’t Sleep, There are Snakes: Life and Language in the Amazonian Jungle. Profile Books LTD.
- Ingold, T. (2013) Making: Anthropology, Archaeology, Art and Architecture. Abingdon: Routledge.
- Kimmerer, R. W. (2013) Braiding Sweetgrass, Milkweed Editions. Penguin.
- Ober, C., Sinatra, S. T. and Zucker, M. (2010) Earthing: The Most Important Health Discovery Ever? . Edited by C. Hirsch.
Gallwch gael golwg ar rai delweddau o waith helyg Alis isod (cliciwch i weld y sgrin lawn):
Cerddoriaeth thema podlediad gan Transistor.fm. Learn how to start a podcast here.